Pwyllgor Craffu Partneriaethau
19/12/2024 10.00 am
Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Darlledu fideo a sain ar y rhyngrwyd yw gweddarlledu. Bydd camerâu a meicroffonau yn Siambr y Cyngor yn darlledu cyfarfod er mwyn i'r sawl sydd am wylio wneud hynny trwy wefan y Cyngor.
Sut ydw i'n gwylio gweddarllediad? Gallwch wylio'r cyfarfodydd yn fyw, ac am hyd at 6 mis ar ôl hynny, os oes gennych gysylltiad â’r rhyngrwyd. Hefyd, ar dudalen y gweddarllediad fe welwch ddolenni at agenda ac adroddiadau'r cyfarfod rydych chi'n ei wylio.
Archif Cyfarfodydd. Os ydych yn colli cyfarfod neu os ydych am wylio rhan neu'r cyfan ohono eto gallwch wneud hynny hyd at chwe mis ar ôl dyddiad y cyfarfod. Mae'r pwyntiau mynegai yn caniatáu ichi gyrchu eitem benodol ar yr agenda neu siaradwr penodol.
Adborth. Mae modd i chi gyflwyno sylwadau ac adborth ynghylch y gweddarllediadau trwy ddefnyddio'r ffurflen adborth ar waelod tudalen y gweddarllediad. Fe welwch y cyfarfodydd diweddar a rhai sydd i'w cynnal yn y dyfodol ar ochr dde'r dudalen hon. Cliciwch ar deitl y cyfarfod rydych chi am ei wylio.
Rhybudd hawlfraint. Mae pob gweddarllediad yn hawlfraint Cyngor Sir Ddinbych. Gall gweddarllediad lle mae Cyngor Sir Ddinbych wedi darparu côd mewnblannu ar ei gyfer gael ei gynnal yn llawn ar wefan arall. Fodd bynnag, nid oes gennych chi hawl i lawrlwytho ffilm na i lwytho ffilm i fyny ar wefan arall heb ganiatâd ysgrifenedig gan Gyngor Sir Ddinbych. Ar gyfer gwefannau rhannu fideos mae'n angenrheidiol i chi fod wedi derbyn caniatâd perchennog yr hawlfraint i lwytho unrhyw fideo i fyny.
Tanysgrifiwch i gael gwybod drwy e-bost am weddarllediadau i ddod sydd o bwys i chi